Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Grant Duncan, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Gregg Jones (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.
2. Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion polisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur â Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig, cymeradwyo cyffuriau ledled yr UE, a modelau gofal i’r henoed yng ngwledydd yr UE.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried materion polisi’r UE eto fel rhan o drafodaeth ehangach ar ei flaenraglen waith yn y dyfodol.
3. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Cynllun gwaith y Pwyllgor
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gynllun gwaith ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.
4. Papur Gwyn ar Roi Organau - Sesiwn friffio ar y materion technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
4.1 Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y Papur Gwyn ar Roi Organau.
4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, y gofynnodd y Pwyllgor amdani:
· rhestr o sefydliadau yn y trydydd sector sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn;
· manylion am gyfarfodydd cyhoeddus ar y Papur Gwyn a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol;
· eglurhad ynghylch a yw’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yn gymwys yng Nghymru a Lloegr yn unig, neu hefyd yn cynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg ar ddiwedd y broses o ymgynghori ar y Papur Gwyn.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Tachwedd.
5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau i’w nodi.
6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8.
7. Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Adroddiad drafft
7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i leihau’r risg o strôc.
8. Paratoi ar gyfer y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion y byddai’n eu crybwyll wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y sesiwn graffu ar 25 Ionawr 2012.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.